YMATEB I GANLYNIADAU PISA
Medi 8fed, 2026
Mae UCAC yn rhannu’r siom gyffredinol yng nghanlyniadau PISA eto eleni.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Ioan Rhys Jones:
‘Beth bynnag yw eich barn am PISA fel modd o asesu byd addysg, mae’r canlyniadau eleni yn siomedig.
Fodd bynnag, rhaid cydnabod mai cipolwg sydyn ar y gyfundrefn addysg y mae PISA yn ei roi i ni a hynny ar ystod gyfyngedig o sgiliau. Dylid cofio mai sampl o ysgolion yn unig sydd yn cymryd rhan yn y profion hyn bob tair blynedd. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod angen cynllunio i wella a rhoi sylw i’r sgiliau sylfaenol drwy’r wlad.
Gallwn ond gobeithio y bydd y Cwricwlwm i Gymru o’i sefydlu’n llawn yn sicrhau fod sail gadarn i ddysgwyr ac y bydd Y Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd yn fodd o gynllunio, meincnodi a sicrhau gwelliant cenedlaethol yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae’n allweddol ein bod yn ystyried pob agwedd o’r gyfundrefn addysg, gan gynnwys y gymuned a’r aelwyd wrth geisio cynllunio. Byddai’n dda gweld buddsodiad ariannol gwirioneddol yn ein hysgolion i sicrhau ein bod yn gweld gwelliant. Ar hyn o bryd, mae’r gweithlu yn ein hysgolion yn gweithio’n galed o dan amgylchiadau heriol. Gobeithio y gwelwn y Llywodraeth bresennol yn gwerthfawrogi pwysigrwydd buddsoddi ym myd addysg, er mwyn gosod seiliau cadarn i’n disgyblion, sef ein dyfodol.’